Mae Fforwm Partneriaeth Afon Menai yn dod a’r gymuned at ei gilydd i drafod datrysiadau arloesol i’r Afon Menai. Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod y Fenai yn parhau i fod yn gynaliadwy ar gyfer bywyd gwyllt, hamdden a busnes.
Credwn y daw cynnydd drwy ddod â phobl ynghyd. Pobl o bob cefndir, sydd gyda'r ysgogiad a'r dylanwad i wneud newid cadarnhaol.
Mae dyfodol gwell i'r Fenai yn bwysig i bawb. Byddwch yn rhan o'r newid hwnnw ac ymunwch â'n cymuned.
Ymunwch â ni i drafod datrysiadau.
Menai Strait Partnership Forum
•
Fforwm Partneriaeth Afon Menai
•
Menai Strait Partnership Forum • Fforwm Partneriaeth Afon Menai •
Pam bod yr Afon Menai yn unigryw?
Amgylchedd morol unigryw gyda digonedd o rywogaethau. 30km o ddŵr llanw, gyda chwe afon gyfagos.
Rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Mae dwy bont eiconig yn croesi o'r tir mawr i Ynys Môn. Mae Pwll Ceris /‘Swellies’ enwog yn corddi yn y canol i greu amrediad llanw unigryw yn y Fenai.
Darganfyddwch pam ein bod ni'n meddwl bod yr Afon Menai yn em brin a dylid ei hamddiffyn.
Lleisiau'r Fenai
Clywch gan bobl leol sy'n dibynnu ar y Fenai ar gyfer adloniant a bywoliaeth.
Beth yw'r peryglon?
Rydym eisio i’r Afon Menai barhau i fod yn lle hyfyw a chynaliadwy ar gyfer bywyd gwyllt, busnes a hamdden ymhell i'r dyfodol.
Dowch i ddarganfod yr heriau sy’n gwynebu’r Fenai a’n helpu i ddarganfod datrysiadau.
Mae'r Afon Menai eich angen chi.
Dowch yn rhan o Fforwm Partneriaeth Afon Menai.
Os ydych yn breswylydd, yn berchennog busnes, yn wyddonydd, yn sefydliad neu'n caru'r Fenai, helpwch ni i ddod at ein gilydd a thrafod datrysiadau er mwyn sicrhau bod y Fenai yn parhau i fod yn lle cynaliadwy ar gyfer bywyd gwyllt, busnes a hamdden.
Bydd ein cynhadledd gyntaf a digwyddiad i drafod datrysiadau yn cael ei gynnal ar 23ydd Mawrth 2023. Dewch draw i glywed am y peryglon mae’r Fenai yn eu gwynebu gan Dr Lewis Levy, Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru ac MSFOMA yn ogystal â’n siaradwyr gwadd o’n cyfres Lleisiau’r Fenai.
Mewn undod mae nerth